Q.1
Pa un o garfan bresennol Cymru oedd ar y fainc i'w glwb yn ystod ffeinal Cwpan Capital One 2015/16?

Q.2
Gareth Bale oedd y chwaraewr ieuengaf erioed i gynrychioli Cymru pan enillodd ei gap cyntaf yn 16 mlynedd 315 diwrnod oed. Ond pwy dorodd y record hwnnw wedi hynny?

Q.3
Pa glwb yn y Bencampwriaeth wnaeth Aaron Ramsey ymuno a nhw yn 2010 ar fenthyg o Arsenal wrth iddo adennill ei ffitrwydd ar ol torri ei goes?

Q.4
Chafodd Ryan Giggs erioed gerdyn coch dros Manchester United, ond fe gafodd o un dros Gymru yn 2002. Pwy oedd y gwrthwynebwyr o Sgandinafia'r diwrnod hwnnw?

Q.5
Pa reolwr adnabyddus gafodd ei atal gan ei glwb rhag cynnal trafodaethau i fod yn rheolwr newydd Cymru yn 1987?

Q.6
Pa un o wrthwynebwyr Cymru yn ystod ymgyrch ragbrofol Ewro 2016 oedd yn chwarae yn Stadiwm y Brenin Baudouin?

Q.7
Pwy fethodd gic o'r smotyn yng ngem gartref olaf Craig Bellamy dros Gymru?

Q.8
Beth yw enw cyntaf go iawn Jazz Richards?

Q.9
Pwy oedd gwrthwynebwyr Cymru yn rownd yr wyth olaf Pencampwriaethau Ewrop 1976?

Q.10
Sawl aelod o garfan Abertawe enillodd Gwpan y Capital One yn 2012 oedd yn Gymry?

Q.11
Pa gwmni sydd yn gyfrifol am gynhyrchu cit Cymru ar gyfer Ewro 2016?

Q.12
Pa un o'r timau canlynol sydd ddim yng ngrwp rhagbrofol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2018?

Q.13
Sawl gwaith sgoriodd John Charles dros Gymru yn ystod ei yrfa ryngwladol?

Q.14
Pa chwaraewr fyddai'n mynd 'mlaen i reoli Cymru beniodd y gol fuddugol i drechu Lloegr yn y Cae Ras yn 1984?

Q.15
Ble gafodd Joe Allen ei eni?

Q.16
Beth oedd yn anarferol am yr ornest rhwng Cymru a'r Alban ym Mharc Ninian yn 1924?

Q.17
Pa gyn-reolwr Casnewydd sgoriodd yn erbyn Cymru yn 1983?

Q.18
Fe enillodd Jeremy Goss naw cap dros Gymru yn y 1990au. Ble cafodd o ei eni?

Q.19
Pwy sgoriodd unig gol y gem pan gollodd Cymru o 6-1 yn erbyn Serbia yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014?

Q.20
Pwy ydi'r unig chwaraewr y bu Gary Speed yn reolwr arno gyda'i glwb a'i wlad?